Partneriaethau
Mae Llwybrau Chwarae wedi ffurfio Partneriaeth gyda Chyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Gâr, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS) a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS). Mae’r gwaith partneriaeth rhwng y sector statudol a’r sector gwirfoddol yn hanfodol i lwyddiant y gymdeithas hon, a’i datblygiad.
Mae Llwybrau Chwarae hefyd wedi ffurfio partneriaeth gyda Pharc Bywyd Gwyllt Manor House ac mae’n gynrychiolydd ar ei Is-grŵp Addysg/Chwarae. Mae’r bartneriaeth hon mewn lle da oherwydd mae gan ethos y mudiadau nodau cyffredin.

