Chwarae
Beth yw Chwarae?
Mae Llywodraeth Cymru (Polisi Chwarae 2002) yn credu mai:
- chwarae yw’r broses ddysgu sylfaenol y mae dynoliaeth wedi ei dilyn er mwyn datblygu. Mae plant yn arddangos angen i chwarae yn eu hymddygiad, yn ogystal â dyhead greddfol i chwarae. Mae wedi cyfrannu’n sylweddol at oroesiad esblygol a datblygiad ein rhywogaeth. Mae plant yn defnyddio chwarae yn yr amgylchedd naturiol i ddysgu am y byd y maen nhw’n byw ynddo gydag eraill. Dyma’r broses ar gyfer dysgu a thyfu, ac, fel y cyfryw, mae popeth sy’n cael ei ddysgu trwy chwarae o fudd i’r plentyn.
- mae chwarae’n cwmpasu ymddygiad plant sy’n cael ei ddewis yn rhydd, ei gyfarwyddo’n bersonol a’i ysgogi’n gynhenid. Caiff ei wneud heb unrhyw wobr na nod allanol, ac mae’n rhan sylfaenol a chynhenid o ddatblygiad iach – ar gyfer plant unigol, ond hefyd ar gyfer y gymdeithas y maen nhw’n byw ynddi.
- mae chwarae mor hanfodol bwysig i bob plentyn yn natblygiad eu sgiliau corfforol, cymdeithasol, meddyliol, emosiynol a chreadigol fel y dylai cymdeithas geisio pob cyfle posib i’w gefnogi a chreu amgylchedd sy’n ei feithrin. Ar bob lefel mewn llywodraeth, dylai’r broses benderfynu ystyried effaith y penderfyniadau hynny ar y cyfleoedd i blant gael chwarae.
- yn y lle cyntaf, ac yn bennaf, mae chwarae yn broses ddysgu ble mae’r plentyn yn cyfarwyddo’r broses ei hun, ac, fel y cyfryw, mae’n broses sy’n ddilys i blant o bob oed. Mae’n elfen mor hanfodol o fywyd plentyn y bydd gallu’r plentyn i ddatblygu’n bositif yn cael ei rwystro neu ei gyfyngu oni chaiff fynediad rhydd i’r amrywiaeth ehangaf o amgylcheddau a chyfleoedd i chwarae.
- y rhyddid a’r ffaith fod y plentyn wrth galon y chwarae sy’n gwneud iddi fod yn broses ddysgu mor effeithiol a chynhwysfawr.