Telerau Defnyddio’r Wefan

Croeso i’n gwefan. Os ydych yn parhau i bori trwy’r wefan hon, a’i defnyddio, rydych yn cytuno i gydymffurfio â’r amodau a thelerau canlynol ar gyfer defnyddio’r wefan, ac rydych yn rhwym iddynt.  Mae’r amodau a thelerau hyn, ynghyd â’n polisi preifatrwydd, yn llywodraethu perthynas Llwybrau Chwarae â chi o ran y wefan hon. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw ran o’r amodau a thelerau hyn, a wnewch chi beidio â defnyddio ein gwefan os gwelwch yn dda.

Mae’r term ‘Llwybrau Chwarae’ neu ‘ni’ yn cyfeirio at berchennog y wefan. Mae’r term ‘chi’ yn cyfeirio at ddefnyddiwr neu ddarllenydd ein gwefan.

Mae’r defnydd o’r wefan hon yn ddarostyngedig i’r telerau defnyddio canlynol:

  • Mae cynnwys tudalennau’r wefan hon er gwybodaeth gyffredinol i chi ac er eich defnydd cyffredinol chi yn unig. Fe allai newid heb rybudd.
  • Nid ydym ni, nac unrhyw drydydd person, yn darparu unrhyw waranti na gwarant ynghylch cywirdeb, amseroldeb, perfformiad, cyflawnrwydd nac addasrwydd yr wybodaeth a’r deunyddiau a geir ar y wefan hon, neu a gynigir ar y wefan hon, at unrhyw ddiben penodol. Rydych yn cydnabod y gallai gwybodaeth a deunyddiau o’r fath gynnwys camgymeriadau neu wallau ac rydym yn gwrthod unrhyw atebolrwydd neu gyfrifoldeb dros gamgymeriadau neu wallau o’r fath i’r graddau llawnaf a ganiateir yn ôl y gyfraith.
  • Rydych yn defnyddio unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon ar eich perygl eich hun, ac ni fyddwn yn atebol am hyn. Eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod unrhyw gynnyrch, gwasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael trwy’r wefan hon yn cwrdd â’ch gofynion penodol chi.
  • Mae’r wefan hon yn cynnwys deunyddiau sy’n eiddo i ni neu wedi eu trwyddedu i ni. Mae’r deunyddiau hyn yn cynnwys y cynllun, gosodiad, ymddangosiad, delwedd a graffeg, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu at y rhain. Ni chaniateir atgynhyrchu ac eithrio mewn cydymffurfiaeth â’r rhybudd hawlfraint, sy’n rhan o’r amodau a thelerau hyn.
  • Cydnabyddir pob nod masnach a atgynhyrchir ar y wefan hon nad ydyw’n eiddo i’r gweithredwr, nac wedi ei drwyddedu iddo, ar y wefan.
  • Efallai y bydd defnydd anawdurdodedig o’r wefan hon yn arwain at gais am iawndal a/neu efallai y bydd yn drosedd.
  • O bryd i’w gilydd, efallai y bydd y wefan hon hefyd yn cynnwys dolenni at wefannau eraill. Darperir y dolenni hyn er eich cyfleustra chi, i ddarparu gwybodaeth bellach. Nid ydynt yn golygu ein bod yn ardystio’r wefan/gwefannau. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y wefan/gwefannau y mae’r ddolen/dolenni yn arwain ati/atynt.
  • Mae eich defnydd o’r wefan hon, ac unrhyw anghydfod sy’n codi o ddefnyddio’r wefan, yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Trwy ddefnyddio’r wefan hon, www.playroutes.org.uk rydych yn derbyn yr amodau a thelerau canlynol yn awtomatig:

  • Mae’r holl ddeunydd gwreiddiol ar y gwefannau hyn yn eiddo i Play Routes ac yn eiddo cyflawn iddi, oni nodir yn wahanol.
  • Mae croeso i ddefnyddwyr lawrlwytho gwybodaeth a delweddau o’r gwefannau, ond mae awduron y safle’n gofyn am beth cydnabyddiaeth yn gyfnewid. Gall hyn fod ar ffurf dolen at y wefan o wefan y defnyddiwr.
  • A wnewch chi BEIDIO â defnyddio’r adnoddau a’r delweddau hyn heb ganiatâd y perchennog/awdur.

Ymwadiad

Darperir yr holl gynnwys o fewn y gwefannau uchod er gwybodaeth gyffredinol yn unig. Nid yw Play Routes yn atebol am gynnwys unrhyw safleoedd rhyngrwyd allanol a restrir, ac nid yw’n ardystio unrhyw wasanaeth na chynnyrch masnachol a grybwyllir neu y ceir cyngor arno ar unrhyw rai o’r safleoedd hyn.

Datganiad Hawlfraint

Oni nodir yn wahanol, Play Routes sydd â’r hawlfraint ar gyfer y deunyddiau a geir ar y gwefannau, ac ni ddylid eu llungopïo, dyblygu nac atgynhyrchu mewn unrhyw ffordd heb ganiatâd ysgrifenedig clir gan Play Routes.

Play Routes sydd â’r hawlfraint ar gyfer deunyddiau sain a fideo amlgyfrwng oni nodir yn wahanol. Yr artistiaid priodol sydd â hawlfraint unrhyw ddeunyddiau sain a fideo ychwanegol ar y wefan hon ac maent wedi cael eu defnyddio gyda chaniatâd.