Polisi Preifatrwydd

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn nodi sut mae Llwybrau Chwarae yn defnyddio unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei rhoi i Llwybrau Chwarae wrth ddefnyddio’r wefan hon, a sut mae’n ei diogelu.

Mae Llwybrau Chwarae wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn diogelu eich preifatrwydd. Os digwydd i ni ofyn i chi ddarparu gwybodaeth benodol y byddai modd ei defnyddio i gael gwybod pwy ydych chi, wrth i chi ddefnyddio’r wefan hon, yna fe allwch fod yn sicr y byddwn yn ei defnyddio yn unol â’r datganiad preifatrwydd hwn.

Efallai y bydd Llwybrau Chwarae yn newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd, trwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech ddod yn ôl i ddarllen y dudalen hon bob nawr ac yn y man, er mwyn sicrhau eich bod yn hapus ag unrhyw newidiadau. Mae’r polisi hwn yn effeithiol o 1 Rhagfyr 2010.

Yr hyn yr ydyn ni’n ei gasglu

Efallai y byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol:

  • enw a theitl eich swydd
  • gwybodaeth gyswllt gan gynnwys cyfeiriad e-bost
  • gwybodaeth ddemograffig er enghraifft cod post, hoffterau a diddordebau
  • gwybodaeth arall sy’n berthnasol i arolygon cwsmeriaid a/neu gynigion

Yr hyn yr ydyn ni’n ei wneud gyda’r wybodaeth yr ydyn ni’n ei chasglu

Rydyn ni angen yr wybodaeth hon er mwyn deall eich anghenion a rhoi gwell gwasanaeth i chi, ac, yn benodol, am y rhesymau canlynol:

  • Cadw cofnodion yn fewnol.
  • Efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i wella’n cynnyrch a’n gwasanaethau.
  • O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn anfon negeseuon e-bost hyrwyddol ynghylch cynnyrch newydd, cynigion arbennig neu wybodaeth arall a fyddai o ddiddordeb i chi yn ein barn ni, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a gafwyd gennych.
  • O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn hefyd yn defnyddio’ch gwybodaeth i gysylltu â chi at ddibenion ymchwilio i’r farchnad. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost, dros y ffôn, drwy’r ffacs neu drwy’r post. Efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i deilwra’r wefan yn ôl eich diddordebau.

Diogelwch

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad anawdurdodedig neu ddatgeliad, rydym wedi cyflwyno gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheoli addas er mwyn diogelu’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu ar-lein.

Sut yr ydym yn defnyddio cwcis

Mae cwci yn ffeil fach sy’n gofyn am ganiatâd i eistedd ar yriant caled eich cyfrifiadur. Unwaith fyddwch chi’n cytuno, ychwanegir y ffeil ac mae’r cwci’n helpu dadansoddi traffig ar y we neu’n dweud wrthych pan fyddwch chi’n clicio ar wefan benodol. Mae cwcis yn galluogi cymwysiadau ar y we i ymateb i chi fel unigolyn. Mae’r cymhwysiad ar y we yn gallu teilwra’i weithrediadau yn ôl eich anghenion chi, eich hoffterau a’ch casbethau trwy gasglu gwybodaeth am eich hoffterau, a’i chofio.

Rydyn ni’n defnyddio cwcis cofnodi traffig i gael gwybod pa dudalennau sy’n cael eu defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi data ynghylch traffig i dudalennau ar y we ac i wella’n gwefan er mwyn ei theilwra yn ôl anghenion y cwsmer. Rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn dadansoddi ystadegau yn unig, ac yna mae’r data’n cael ei dynnu o’r system.

Ar y cyfan, mae cwcis yn ein helpu i ddarparu gwell gwefan ar eich cyfer chi, trwy ein galluogi i fonitro’r tudalennau sy’n ddefnyddiol i chi a’r rhai sydd ddim yn ddefnyddiol. Nid yw cwci’n rhoi mynediad i ni i’ch cyfrifiadur chi nac i unrhyw wybodaeth amdanoch, ac eithrio’r data yr ydych yn dewis ei rannu gyda ni.

Fe allwch ddewis derbyn cwcis neu eu gwrthod. Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond fel arfer fe fyddwch yn gallu addasu gosodiadau eich porwr er mwyn gwrthod cwcis os fyddai’n well gennych wneud hynny. Efallai y bydd hyn yn eich atal rhag manteisio i’r eithaf ar y wefan.

Dolenni at wefannau eraill

Efallai bod ein gwefan yn cynnwys dolenni at wefannau eraill sydd o ddiddordeb. Ond, unwaith fyddwch chi wedi defnyddio’r dolenni hyn i adael ein gwefan, cofiwch nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall yr ydych wedi mynd ati. Felly, nid ydym yn gyfrifol am ddiogelu unrhyw wybodaeth a geir gennych, na phreifatrwydd yr wybodaeth honno, pan fyddwch chi’n ymweld â gwefannau o’r fath, ac nid yw safleoedd o’r fath yn cael eu llywodraethu gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus a darllen y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.

Rheoli’ch gwybodaeth bersonol

Efallai y byddwch yn dewis cyfyngu ar y broses o gasglu’ch gwybodaeth bersonol, neu ei defnyddio, yn y ffyrdd canlynol:

pan ofynnir i chi lenwi ffurflen ar y wefan, edrychwch am y bocs y gallwch ei glicio i ddangos nad ydych am i’r wybodaeth gael ei defnyddio gan unrhyw un at ddibenion marchnata uniongyrchol

os oeddech wedi cytuno ymlaen llaw i adael i ni ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol, fe allwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg trwy ysgrifennu atom neu anfon e-bost atom.

Ni fyddwn yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol, nac yn ei dosbarthu na’i rhoi ar les i unrhyw un arall, onid ydym wedi cael eich caniatâd neu onid oes gofyn i ni wneud hynny yn gyfreithiol.   Efallai y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i anfon gwybodaeth hyrwyddol atoch ynghylch pobl/pethau eraill a fyddai o ddiddordeb i chi yn ein barn ni, os ydych yn dweud wrthym eich bod am i ni wneud hynny.

Cewch ofyn am fanylion gwybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Fe fydd angen talu ffi fach.

Os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, a wnewch chi ysgrifennu atom neu anfon e-bost atom cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda, i’r cyfeiriad uchod. Fe fyddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir yn brydlon.