Nawdd
Mae ffurfio’r Gymdeithas Chwarae yn rhan o’r Rhaglen Chwarae Plant a ariannwyd gan y Loteri Fawr. Mae’r mudiad yn ymdrechu i fynd ar drywydd cyfleoedd nawdd pellach a chafwyd nawdd i ddatblygu cynllun busnes gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Fe fydd gan y mudiad gynorthwy-ydd prosiectau yn arbennig ar gyfer y gymdeithas. Ariannwyd y gweithiwr hwn gan gais llwyddiannus am nawdd ychwanegol i’r Gronfa Loteri Fawr.
