Croeso
Loteri FAWR Ym mis Hydref 2006, fe gyhoeddodd y Loteri FAWR, o dan ei menter Teuluoedd Iach, £13 miliwn ar gyfer gwaith datblygu ledled Cymru, a hynny ar gyfer seilwaith chwarae plant ac i ddatblygu prosiectau chwarae o fewn ei rhaglen Chwarae Plant. Trwy waith partneriaeth rhwng y sector gwirfoddol a’r sector statudol ar draws Sir Benfro a Sir Gâr, lluniwyd cais ar gyfer seilwaith chwarae, gwerth £250,000, ym mis Mai 2007 er mwyn ei gyflwyno i’r Gronfa Loteri FAWR.
Roedd y cais am nawdd yn llwyddiannus ac ym mis Mai 2008 penodwyd Cydlynydd Datblygiad Rhanbarthol a’i rôl oedd cefnogi chwarae yn Sir Benfro a Sir Gâr. Un o’r amcanion oedd sefydlu Cymdeithas Chwarae Rhanbarthol traws-sirol. Llwybrau Chwarae yw’r gymdeithas sydd wedi datblygu o’r Prosiect Chwarae Plant a ariannwyd gydag arian y Loteri Fawr. Y nod yw cefnogi chwarae mewn cymunedau a bod yn eiriolydd dros chwarae plant a phobl ifanc.




